Tuesday 5 January 2010

North Wales rugby rebranded


A date of major significance in ancient Welsh history has been revived to form the new name and emblem for the reshaped North Wales development team.The team, previously known as Rygbi Gogledd Cymru, will now be called RGC 1404 which will be emblazoned on a heraldic badge above a golden Welsh dragon alongside an ornate celtic graphic within a knight's shield.1404 is the year when Owain Glyndwr was crowned Welsh Prince at Machynlleth and led his Welsh army and supporters under the golden dragon standard.Now these landmarks from history are being revived to spearhead the RGC 1404 campaign to become a new and powerful force in the representative game.The newly designed branding is being launched today (Tuesday 5 January) along with details of RGC 1404's finalised fixture list which kicks off in mid-January 2010.Ten fixtures have been confirmed for the team starting on Friday 15th January when RGC 1404 take on a Leicester Tigers Development XV at their new home ground in Parc Eirias, Colwyn Bay. Other fixtures are still to be added to the schedule.The team's golden dragon standard will be raised above their new home base for the first fixture to be played by the relaunched side.The WRU Head of Rugby Performance and Development, Joe Lydon, said: "We are delighted with the new branding which the players, supporters and officials can wear with pride."RGC 1404 signifies the focus to raise the profile and development of rugby across the whole of North Wales and provides an opportunity for the whole region to unite and support that focus."The people of North Wales have already proved they have a hunger for top class rugby and this branding proves we want to engage with their hopes and aspirations for the team." WRU Group Chief Executive Roger Lewis said: "Rugby is our national sport here in Wales and it is fitting that our aims for the future are closely linked to our history and heritage off the field as well.""Amongst other things rugby is about dedication, loyalty, and honour which are all symbolised in the life story of Owain Glyndwr.RGC 1404 Head Coach Clive Griffiths said: "We have an exciting fixture list to kick off a new era of north Wales rugby. We have had a great level of cooperation from Premiership clubs in England and Welsh clubs and Regions. The quality of opposition will enable players from north and south Wales along with the Canadians in the squad to challenge themselves against full time and semi-professional players."It's important the players gel as a team under one identity. RGC 1404 will provide that identity and with continued support from the north Wales public, I'm sure that brand will grow year on year."WRU Board representative for North Wales, Peredur Jenkins, said: "The new branding of the Gogledd Cymru team - RGC 1404 - heralds a new era for rugby in north Wales - an exciting and innovative development in Welsh rugby."Our aim is to give young talented players in north Wales, the chance to develop to their potential within their own area, and to give the people of north Wales high quality rugby on their doorstep."I appeal to everyone across north Wales to attend the matches at Parc Eirias to support our own representative team." Kenton Morgan, chair, CIC Rygbi Gogledd Cymru said: "Gogledd Cymru has become more than just a team. It also represents the culture of the north Wales region. RGC 1404 was commissioned to make the brand more accessible to supporters from all over the region but the aspirations of Gogledd Cymru remain the same - to provide supporters and players in north Wales with access to high quality rugby."The RGC 1404 team has already unveiled former Wales defence coach Clive Griffiths as its new Head Coach and announced that ten Canadian international players will arrive next month to bolster the competitive standard of the squad.The WRU link up with Canadian rugby will involve hosting the players while reducing their numbers as the new National Academy structure in North Wales gradually develops more local players to take their places.The new logo for RGC 1404 has been designed by Worldspan of Abergele after being commissioned by the WRU.Today RGC 1404 can confirm ten fixtures for the forthcoming season with all home games to be played at Parc Eirias.RGC 1404 fixtures 2010:Friday 15 Jan v Leicester Tigers Development XV Parc EiriasWed 20 Jan v Antiassassins (Chester) awaySat 30 Jan v Glamorgan Wanderers away2 / 3 Feb v Scarlets, Llandovery RFCWed 17 Feb v Worcester Parc EiriasWed 23 Feb v Sale Jets Parc EiriasWed 10 March v Leeds Parc EiriasFri 19 March v Oxford University Parc EiriasSat 17 April v Cross Keys Parc Eirias23/24 April v Dragons, Parc Eirias.
CYHOEDDI DELWEDD NEWYDD AR GYFER RYGBI GOGLEDD CYMRU
Mae dyddiad pwysig yn hanes Cymru wedi'i adfywio i ffurfio enw ac emblem newydd ar gyfer tîm datblygu Gogledd Cymru.Rŵan, bydd y tîm yn cael ei alw yn RGC 1404 fydd wedi'i nodi ar fathodyn uwchben draig euraidd yn ymyl patrwm Celtaidd addurnedig mewn tarian.1404 yw'r flwyddyn pan goronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru ym Machynlleth ac arweiniodd ei fyddin a'i gefnogwyr dan faner y ddraig euraidd.Rŵan, mae'r cerrig milltir hanesyddol hyn yn cael eu hadfywio i arwain ymgyrch RGC 1404 i fod yn rym newydd a phwerus yn y gêm gynrychioliadol.Bydd y ddelwedd newydd yn cael ei lansio heddiw gyda manylion rhestr gemau RGC 1404 a gadarnhawyd, fydd yn dechrau ganol Ionawr 2010. Mae deg gêm wedi'u cadarnhau ar gyfer y tîm, gan ddechrau ddydd Gwener 15 Ionawr pan fydd RGC 1404 yn chwarae yn erbyn Leicester Tigers Development XV yn eu cartref newydd ym Mharc Eirias, Bae Colwyn. Bydd gemau eraill hefyd yn cael eu hychwanegu at y rhestr bresennol. Bydd baner draig euraidd y tîm yn hedfan uwchben y stadiwm yn ystod gêm gyntaf y tîm. Dywedodd Pennaeth Perfformiad a Datblygiad Rygbi URC, Joe Lydon: "Rydym wrth ein bodd gyda'r ddelwedd newydd y gall y chwaraewyr, y cefnogwyr a'r swyddogion ei wisgo gyda balchder. "Mae RGC 1404 yn cynrychioli'r ffocws i wella proffil a datblygiad rygbi ledled Gogledd Cymru ac mae'n rhoi cyfle i'r rhanbarth cyfan uno a chefnogi'r ffocws hwnnw."Mae pobl Gogledd Cymru eisoes wedi dangos eu bod yn awyddus i weld rygbi o'r safon uchaf, ac mae'r ddelwedd newydd hon yn profi ein bod yn dymuno cyflawni'r gobeithion a'r dyheadau hyn. Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp URC, Roger Lewis: "Rygbi yw ein camp genedlaethol yma yng Nghymru ac mae'n briodol felly bod ein hamcanion ar gyfer y dyfodol yn cysylltu'n agos â'n hanes a'n treftadaeth oddi ar y cae hefyd.""Ymysg pethau eraill, mae ymrwymiad, teyrngarwch, ac anrhydedd i gyd yn bwysig mewn rygbi, ac mae'r rhain i gyd hefyd yn rhan o stori bywyd Owain Glyndŵr. Dywedodd Prif Hyfforddwr RGC 1404, Clive Griffiths: "Mae gennym gemau cyffrous i ddechrau cyfnod newydd yn hanes rygbi Gogledd Cymru. Rydym wedi cael cydweithrediad ardderchog gan glybiau'r Prif Gynghrair yn Lloegr a gan glybiau a rhanbarthau Cymru. Bydd ansawdd y timau rydym yn chwarae yn eu herbyn yn rhoi her i'r chwaraewyr o ogledd a de Cymru, yn ogystal â'r chwaraewyr Canadaidd yn y sgwad, wrth iddynt chwarae yn erbyn chwaraewyr llawn amser a lled broffesiynol."Mae'n bwysig bod y chwaraewyr yn uno fel tîm. RGC 1404 yw enw a hunaniaeth newydd y tîm, a gyda chefnogaeth barhaus gan y cyhoedd yng Ngogledd Cymru, rwy'n siŵr y bydd yn tyfu blwyddyn ar ôl blwyddyn." Dywedodd cynrychiolydd Bwrdd y WRU yng Ngogledd Cymru, Peredur Jenkins: "Mae delwedd newydd tîm Gogledd Cymru - RGC 1404 - yn cyhoeddi dechrau cyfnod newydd ar gyfer rygbi yng Ngogledd Cymru - sy'n ddatblygiad cyffrous ac arloesol i rygbi Cymru. "Ein nod yw rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc a thalentog gogledd Cymru i ddatblygu eu potensial yn eu hardal eu hunain, a rhoi cyfle i bobl gogledd Cymru weld rygbi o safon uchel ar garreg eu drws."Rwy'n erfyn ar bawb, ledled gogledd Cymru i ddod i weld y gemau ym Mharc Eirias i gefnogi ein tîm." Dywedodd Kenton Morgan, cadeirydd CIC Rygbi Gogledd Cymru: "Mae Gogledd Cymru wedi datblygu i fod yn fwy na thîm. Mae hefyd yn cynrychioli diwylliant rhanbarth gogledd Cymru. Comisiynwyd RGC 1404 i wneud y ddelwedd yn fwy hygyrch i gefnogwyr o bob rhan o'r rhanbarth, ond mae dyheadau Gogledd Cymru yn aros yr un fath - darparu rygbi o safon uchel i gefnogwyr a chwaraewyr yng ngogledd Cymru." Mae tîm RGC 1404 eisoes wedi cyhoeddi mai cyn hyfforddwr amddiffyn Cymru, Clive Griffiths, yw eu Prif Hyfforddwr, ac wedi cyhoeddi y bydd deg chwaraewr rhyngwladol o Ganada yn cyrraedd fis nesaf i gryfhau safon gystadleuol y sgwad. Mae'r cyswllt rhwng y WRU a rygbi Canada yn golygu y bydd y chwaraewyr o Ganada yn chwarae gyda'r tîm, ond wrth i'r strwythur Academi Genedlaethol yng Ngogledd Cymru ddatblygu yn raddol bydd y niferoedd yn lleihau wrth i ragor o chwaraewyr lleol ymuno â'r tîm.Mae'r logo newydd ar gyfer RGC 1404 wedi'i gynllunio gan Worldspan o Abergele ar ôl iddo gael ei gomisiynu gan y WRU. Heddiw gall RGC 1404 gadarnhau deg gêm ar gyfer y tymor sydd i ddod, a bydd pob gêm gartref yn cael eu chwarae ym Mharc Eirias. Gemau RGC 1404 yn 2010:Gwener 15 Ionawr v Leicester Tigers Development XV - Parc EiriasMercher 20 Ionawr v Antiassassins (Caer) - oddi cartrefSadwrn 30 Ionawr v Crwydriaid Morgannwg - oddi cartref2 / 3 Chwefror v Scarlets, Clwb Rygbi - LlanymddyfriMercher 17 Chwefror v Caerwrangon - Parc EiriasMercher 23 Chwefror v Sale Jets - Parc EiriasMercher 10 Mawrth v Leeds - Parc EiriasGwener 19 Mawrth v Prifysgol Rhydychen - Parc EiriasSadwrn 17 Ebrill v Cross Keys - Parc Eirias 23/24 Ebrill v Dreigiau - Parc Eirias

1 comment:

Petrus Hansen said...

In this exclusive video interview with Meet The Boss TV, Welsh Rugby's celebrated Head Coach Warren Gatland shares about his team management style, his big lessons on and off pitch, and how four soldiers in a jeep helped him create a siege mentality.

Watch the full video here - http://bit.ly/bNERIc

Valued Sponsors

  • HSBC - Alan Jukes -